top of page

HANES RADIO GLANGWILI

 

1971:  Gwnaeth aelodau’r Urdd, o dan arweiniad Sulwyn Thomas, arbrofi gyda rhaglenni oedd wedi’u recordio a darlledu’n ‘fyw’ o ystafell ddydd Teifi. Ar ôl hyn, roedd angen trefniant mwy parhaol. Cyfrannodd Cyfeillion yr Ysbyty £75 tuag at brynu offer.

 

1972:  Digwyddodd y darllediad byw swyddogol cyntaf i gleifion yr ysbyty ar Ddydd Nadolig 1972. Daethpwyd i adnabod y stiwdio gyntaf fel ‘Y Cwpwrdd Ysgubellau’ a leolwyd ger ward Teifi. Parodd y rhaglen tua dwy awr. Yn dilyn llwyddiant y rhaglen hon ac er mwyn ymateb i’r galw, darlledwyd rhagor o raglenni ar foreau Sadwrn a nosweithiau Sul. Yn fuan wedyn, dechreuwyd darlledu bob noswaith yr wythnos.

 

1975:  Erbyn diwedd 1975, roedd y cwpwrdd ysgubellau bellach yn rhy fach, felly prynwyd caban am gost o £4000. Cafodd yr arian ei godi gan wirfoddolwyr.

 

1976:  Ar Fehefin y 19eg, 1976, darlledwyd i’r cleifion o’r stiwdio gyntaf am y tro cyntaf.

 

1981:  Gwnaeth Wyn Jones, ein person technegol greu hanes trwy ddarlledu yn ddi-dor yn y Gymraeg am 20 awr.

 

1996:  Oherwydd cyflwr gwael y caban, symudwyd y stiwdio i’w lleoliad presennol ar lawr uchaf adain newydd cartref y nyrsys.

 

2000:  Ar ddechrau’r mileniwm newydd, penderfynwyd cyflwyno cais am drwydded ddarlledu FM. Ar ôl hyn, dechreuodd Radio Glangwili ddarparu gwasanaeth 24 awr gan ddefnyddio system garwsél 30 CD.

 

2007:  Diweddarwyd yr offer ymhellach. Roeddem yn ffodus i dderbyn £5000 gan y Loteri Genedlaethol, £500 gan Ford Gron Caerfyrddin a £1000 gan Tesco. Golyga hyn fod modd i ni brynu system gyfrifiadurol technoleg uwch sydd yn dal yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd.

 

2013:  Ym mis Ebrill 2013, torrwyd y record byd ar gyfer darlledu yn ddi-dor yn y Gymraeg o 20 awr gan Alun Jones, mab Wyn Jones. Llwyddodd i ddarlledu am 24 awr yn ddi-dor yn y Gymraeg.

 

2015: Ar ôl 2014, pan fuodd mwy o bobl ifanc ar brofiad gwaith nag erioed o'r blaen gyda'r orsaf (12 dros 8 wythnos, gyda 4 ohonynt yn awr yn cyflwyno yn rheolaidd ar Radio Glangwili), roedd y galw am brofiad gwaith eleni yn enfawr gyda dros 35 o bobl ifanc yn gofyn am y cyfle i ddod ar brofiad gwaith erbyn diwedd mis Chwefror.

bottom of page